Heather Jones yn recordio Can Newydd yn Stiwdio AIM

Fe wnaeth y gantores enwog ym myd gwerin a pop Cymru recordio can newydd yn stiwdio Aim yn ystod mis Tachwedd, sy’n cofio  y cynhyrchydd dillad enwod, Laura Ashley, oedd wedi sefydli fatri ym mhentref Carno, yng nghanolbarth Cymru yn ystod y 70au.

Cynhyrchwyd y gan ar gyfer arddangosfa arbennig sy’n rhoi cyfle i ddysgu mwy am fywyd a gwaith y dylunydd ffasiwn adnabyddus o Gymru. Roedd ei ffasiynau breuddwydiol eu naws yn rhan annatod o’r mudiad mynd yn ôl at y tir yn y 1970au ac fe wirionodd y byd ar siapiau rhamantaidd, crychion hen ffasiwn a phrintiau blodau’r label.

Fe gafodd y gan ei ddarlledu fel rhan o eitem am yr arddangosfa yn rhaglen Heno, S4C ar 23 Tachwedd, 2017,

<https://twitter.com/visitceredigion/status/933293351792672768>.

Roedd Heather hefyd yn westai ar gyfer sioe Sain Cothi ar Radio Cymru:

<https://twitter.com/BBCRadioCymru/status/640836386187313152>

Ceir mwy o wybodaeth am yr arddangosfa ar safle gwe amgueddfa Ceredigion: http://www.ceredigionmuseum.wales/digwyddiadau/?t=

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *