Cymru ddim mwyach yn ‘eithriadol o wael’ ar gyfer galwadau ffôn symudol

Ym mis Ionawr, fe wnes i fynd i seminar defnyddiol iawn, a drefnwyd ar y cyd gan Ofcom a Swyddfa Cymru i drafod derbyniad ffonau symudol yng Nghymru. Roedd yn drawiadol iawn i weld bod y trefnwyr wedi llwyddo i sicrhau cynrychiolwyr o’r holl weithredwyr symudol.  Mi fi trafodaeth helaeth am yr heriau o ran darparu gwasanaethau ar gyfer Cymru ac mi roedd e hefyd yn ddefnyddiol i nodi eu cynlluniau ar gyfer sut y gellid gwella argaeledd eu gwasanaethau yn sylweddol yn y dyfodol. Yn wir y prif ffocws oedd atebion ymarferol i gyflawni’r nod hwn.

Yn ei sylwadau agoriadol, nododd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, Guto Bebb AS, y pwysigrwydd economaidd o ddarparu gwasanaeth ar gyfer pob rhan o Gymru wledig  a threfol.  Yn ôl y gweinidog, mae Llywodraeth y DU yn benderfynol i barhau i fynd i’r afael â materion sy’n wynebu Cymru.

Dilynwyd ef gan Julie James AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Sgiliau a Gwyddoniaeth, a bwysleisiodd yr angen am drafodaeth agored a gonest am sut i sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am ymdriniaeth well gyda’r cyfyngiadau cynllunio cyfredol a phryderon trigolion lleol am yr effaith amgylcheddol o leoli mastiau trosglwyddo ychwanegol.

Nododd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Ofcom, ymgyrch hysbysebu hanesyddol a gynhyrchwyd gan Croeso Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl, yn hysbysebu Cymru fel ardal “drwg eithriadol ar gyfer ffonau symudol”.  Fe wnaeth e awgrymu bod y ddadl wedi symud ymlaen llawer ers hynny a bod pobl heddiw yn disgwyl argaeledd gwasanaeth llais a data da lle bynnag y maent yn mynd.

Mewn adroddiad yn 2016 gan Ofcom yn cynnwys data defnyddiol iawn am argaeledd gwasanaethau symudol yng Nghymru, https://www.ofcom.org.uk/research-and-data/infrastructure-research/connected-nations-2016. Er enghraifft, yn 2016, cwmpas daearyddol gwasanaethau llais symudol oedd 52% yng Nghymru, yn sylweddol uwch nag yn yr Alban ar 36%, ond y ffigwr cyfartalog ar gyfer y DU yw 66% gydag argaeledd yn Lloegr hyd yn oed yn uwch, sef 84%.

Er gwaethaf rhwymedigaethau, yn nhrwydded O2, ar gyfer ei wasanaeth 4G i gyrraedd 95% o’r boblogaeth yng Nghymru, bydd bylchau mawr yn parhau ac fe fydd yr amodau economaidd i gyrraedd cymunedau anghysbell yn parhau i fod yn “heriol”, fel y byddai’r gweithredwyr yn dweud. Ond mae gwelliannau yn cael eu cynllunio ar gyfer rhwydwaith gwasanaethau brys gwell, diwygiadau i gyfreithiau cynllunio a gwelliannau i’r Cod Cyfathrebu Electronig, gyda mesur Economi Ddigidol newydd yn cyflwyno’r hawl i uwchraddio’r seilwaith heb fod angen cymeradwyaeth cynllunio ychwanegol, er enghraifft, lle mae gweithredwyr yn dymuno defnyddio offer newydd mewn safle penodol. Hefyd, mae cynlluniau i wella darpariaeth Wi-Fi ar rwydwaith rheilffyrdd y DU a gweithredu rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol newydd, erbyn 2020, ac mae’n debygol y bydd mwy o ddefnydd o gelloedd Femto sy’n cysylltu â band eang sefydlog a galluogi signalau ffonau symudol i gael eu cyfleu yn y fangre lle mae’r dechnoleg wedi’i osod.

Ni allaf ond teimlo hefyd fod angen hefyd i ni ailystyried rhai o’n hagweddau tuag at seilwaith mastiau. Yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, bydd yn rhaid i ni weld mastiau yn dalach ac amlygrwydd uwch o offer a thechnoleg os ydym i gael unrhyw obaith o gyflawni disgwyliadau defnyddwyr a symud oddi wrth y senario Croeso Cymru o ychydig flynyddoedd yn ôl.

 Hywel Wiliam

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *